Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

CYP(4)-16-12 Papur 1

Gofal Newyddenedigol - Tystiolaeth i’r Pwyllgor – Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Diben y Papur

 

Rhoddais ddiweddariad i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ym mis Chwefror 2012 ar y sefyllfa gyfredol yn erbyn pob un o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor blaenorol. Mae'r papur hwn yn darparu rhagor o ddiweddariadau ar weithredu ers mis Chwefror ac yn cadarnhau fy nisgwyliadau o’r Byrddau Iechyd Lleol (BILl) cyn cyflwyno fy nhystiolaeth lafar ar 31 Mai.

 

Cefndir

 

Mae’r BILlau yn gyfrifol am sicrhau a chyllido gofal newyddenedigol sy’n ddiogel, yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel ar draws Cymru. Ar gyfer gofal dwys a gofal dibyniaeth uchel a ddarperir yng Nghaerdydd ac Abertawe, mae BILlau yn cyflawni’r swyddogaeth hon drwy eu gwaith cynllunio ar y cyd ar Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Caiff gwasanaethau babanod gofal dibyniaeth uchel a gofal arbennig eraill eu cynllunio a’u sicrhau gan BILlau unigol.

 

Yn 2010, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol blaenorol gyfres o argymhellion yn dilyn ei ymchwiliad i ofal newyddenedigol. Derbyniodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd yr argymhellion hyn a rhoddwyd y dasg i BILlau weithredu ar unwaith, gyda chefnogaeth Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan, is-bwyllgor o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

 

Mae’r Rhwydwaith wedi cyhoeddi 6 archwiliad misol o gydymffurfiaeth â safonau, ac wedi dangos cryn gynnydd ym mhob ardal yng Nghymru ond ceir nifer o ardaloedd risg uchel o hyd, yn enwedig o ran staffio nyrsys a meddygon a’r defnydd o gotiau aciwt (diffyg cydweddu gyda babanod dibyniaeth isel mewn cotiau dibyniaeth uchel) .

 

Gweithredu ers y diweddariad diwethaf i’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2012

 

Er gwaethaf peth gwaith da sydd wedi’i wneud, rwyf i'n dal i fod yn anfodlon â chyflymder cyffredinol y gwelliannau mewn gwasanaethau newyddenedigol ar draws Cymru, yn enwedig yn nhermau cydymffurfio â Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan a lefelau staffio yn dilyn yr ail adolygiad capasiti. Ceir problemau gyda defnydd gwael o gotiau aciwt sy'n cynnig potensial am ffurfweddiad mwy effeithlon i'r cotiau, a lleihau'r angen i gludo mamau beichiog allan o Gymru i esgor.

 

Felly fe ysgrifennais i at Gadeiryddion y BILlau ym mis Chwefror yn mynegi fy mhryderon a’m disgwyliad y byddai BILlau yn cymryd camau brys i sicrhau bod risgiau a phroblemau gweithrediadol yn cael eu datrys. Yn ogystal ysgrifennodd David Sissling, Prif Weithredwr GIG Cymru, at Brif Weithredwyr y BILlau i geisio sicrwydd ysgrifenedig bod ganddynt gynlluniau gweithredu newyddenedigol effeithiol i fynd i’r afael â’r risgiau a’r problemau hynny a ganfuwyd gan yr adolygiad o gapasiti a lefelau staffio a arweiniwyd gan Rwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan. Gofynnwyd i’r BILlau weithredu ar frys i ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu a chyflwyno eu cynlluniau iddo.

 

Y Sefyllfa Gyfredol

 

Yn gyffredinol nid yw’r cynlluniau gweithredu’n ymdrin yn llawn â’r holl broblemau, gan gynnwys yr angen i aildrefnu gwasanaethau cyfredol i sicrhau ei bod yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon. Mae trefniadau gofal newyddenedigol yn ganolog i drefniadau gwasanaethau obstetrig a phaediatrig ac felly rhaid iddynt fod yn rhan o’r cynlluniau ehangach i aildrefnu gwasanaethau sy’n cael eu datblygu gan y BILlau ar gyfer ymgynghori yn ddiweddarach eleni.  Nid yw’r cynlluniau gweithredu yn cydnabod hyn yn ddigonol nac yn dangos y lefel angenrheidiol o gydweithio ar y mater gyda BILlau cyfagos.

 

Er mwyn darparu arweiniad a chyfarwyddyd strategol, bydd uwch weithwyr proffesiynol Llywodraeth Cymru a Chlinigwr Arweiniol y Rhwydwaith Newyddenedigol yn cyfarfod â BILlau yn Ne Orllewin Cymru, De Ddwyrain Cymru a BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr dros yr wythnosau nesaf i ddatblygu’r cynlluniau ymhellach. Bydd y broses hon yn ceisio canfod ‘enillion cyflym’ o flaen yr angen i ymgynghori ar aildrefnu a gwneud y defnydd gorau o adnoddau sy’n bodoli eisoes.

 

Bydd gofyn iddynt archwilio llawer o’r materion a godwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor gan gynnwys:

 

 

Mae trefniadau gwasanaethau newyddenedigol y dyfodol yn cael eu trafod o fewn tair ardal cynllunio – Hywel Dda, De Cymru a Betsi Cadwaladr – gyda phob un yn cydweithio â BILl Powys ac awdurdodau ffiniol eraill. Mae’r rhanbarthau hyn i gyd yn ymgysylltu’n eang â staff clinigol, ac yn achos Hywel Dda, â’r cyhoedd. Bydd cynlluniau’n cael eu datblygu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod haf neu hydref 2012. Mae’r amserlen hon yn angenrheidiol i sicrhau proses ddyladwy wrth ad-drefnu’r gwasanaeth.

 

Bydd pob sefydliad yn gorfod cyflwyno ei gynlluniau i’w craffu gan y Fforwm Clinigol Cenedlaethol. Mae’r fforwm yn cynnwys cynrychiolaeth o Grwpiau Ymgynghorol Arbenigeddau Cenedlaethol ar Iechyd Plant, Iechyd Menywod a Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Neilltuwyd y sesiwn a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2012 i’r gwasanaethau paediatrig ac roedd yn cynnwys trafodaethau helaeth am yr heriau o fewn y gwasanaethau newyddenedigol. Nid oes cynlluniau llawn ar gyfer y gwasanaethau newyddenedigol ar gael eto ar gyfer y craffu annibynnol hwn.

 

Cynnydd Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan

 

Roedd fy mhapur i’r Pwyllgor ym mis Chwefror yn egluro’r gwaith sylweddol a wnaed gan y Rhwydwaith Newyddenedigol ers iddo gael ei sefydlu yn 2010.

 

Ymhlith y llwyddiannau allweddol mae:

 

 

 

·         ym mis Ionawr 2011, dechreuodd gwasanaethau trosglwyddo newyddenedigol yng Ngogledd a De Cymru, gan ddarparu timau trosglwyddo penodol sy’n gallu casglu babanod yn y cyfnod o 12 awr 8.00 am - 8.00 pm. Gweithiodd y Rhwydwaith Newyddenedigol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gynllunio a chaffael ambiwlans a chriw penodol yn ne Cymru. Ym mis Gorffennaf 2011, fe lansiais i’r Gwasanaeth Trosglwyddo Newyddenedigol Aciwt Rhwng Ysbytai yn swyddogol. Yng Ngogledd Cymru mae’r tîm yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau Ambiwlans Cymru gan nad oedd nifer y trosglwyddiadau yn golygu bod angen cerbyd penodol. Mae’r ddau wasanaeth yn adrodd canlyniadau rhagorol ac yn ystod chwarter cyntaf 2012, cafwyd 133 trosglwyddiad yn Ne Cymru a 18 yng Ngogledd Cymru. Mae nifer y trosglwyddiadau gan dimau trosglwyddo Lloegr wedi lleihau’n sylweddol ers i’r gwasanaeth Cymreig ddod yn weithredol. Mae'r rhwydwaith yn dal i fonitro capasiti'r gwasanaeth trosglwyddo 12 awr ac mae'r Grŵp Llywio Cenedlaethol yn disgwyl cael diweddariad ym mis Gorffennaf 2012.

 

Byddaf yn parhau i fonitro gweithredu Byrddau Iechyd Cymru i fynd i’r afael â diogelwch, cynaladwyedd ac ansawdd gofal i’r newyddenedigol a’u gwella.